Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid
Business Area
Reference
VCO00551
Contract Type
Full Time
Location
Remote
Closing Date
06-01-2025
Company Description/ Business Unit
Math o Gontract
Amser llawn
Lleoliadau
Gweithio o bell/Cartref
Dyddiad Cau
Penagored ar hyn o bryd
Rôl: Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid
Cyflog: £23,636
Oriau: 36.25 awr yr wythnos Llun-Gwener 9am-5pm
Amser Llawn/ParhaolDisgrifiad o'r cwmni
Ers 25 mlynedd, bu ein hadran DriveTech yn arweinydd byd ym maes hyfforddi gyrwyr, yn ogystal â darparwr mwyaf y DU o gyrsiau ailhyfforddi troseddwyr gyrru.
Yma yn yr AA rydym yn deall amrywiaeth ac yn gwerthfawrogi'r gwahaniaeth y mae hyn yn ei roi i'n diwylliant a'n cwsmeriaid. Rydym yn mynd ati i chwilio am bobl o gefndiroedd amrywiol i ymuno â ni a dod yn rhan o gwmni cynhwysol lle gallwch chi fod yn chi'ch hun, cewch eich grymuso i fod eich gorau ac yn teimlo eich bod yn wirioneddol perthyn.
This is the job
Dyma'r swydd
Rydym yn chwilio am Ymgynghorwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid ymroddedig, i ymuno â'n tîm cefnogol, cydweithredol.
Chi fydd pwynt cyswllt allweddol cleientiaid Cymraeg eu hiaith sy'n dymuno cael sylw yn yr iaith Gymraeg, cleientiaid Saesneg eu hiaith, gan ddarparu gwybodaeth am gyrsiau priodol, a'u helpu i archebu lle bo angen.
Mae’n RHAID i'r ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
Byddwch yn rhoi profiad positif i gwsmeriaid ar bob un galwad, gan eu croesawu mewn ffordd broffesiynol.
What will I be doing?
Beth fydda i'n ei wneud?
Bydd rhai o'ch gweithgareddau nodweddiadol yn cynnwys:
- Siarad â mynychwyr, cwsmeriaid, hyfforddwyr, yr heddlu a mwy dros e-bost a ffôn.
- Yn ogystal â delio â chleientiaid Saesneg eu hiaith, delio â chleientiaid Cymraeg eu hiaith sy'n dymuno cael sylw yn y Gymraeg.
- Cwblhau archebion cwrs yn gywir.
- Cymryd a phrosesu taliadau'n gywir.
- Rheoli ail-archebion, a chynnig arweiniad i gwsmeriaid sy'n cael anawsterau ar ddiwrnod eu hyfforddiant neu cyn y diwrnod hwn.
- Cadw cofnodion archebu a thrafodion cwsmeriaid yn gyfredol ar ein cronfa ddata.
What do I need?
Beth sydd ei angen arnaf?
Mae gennych brofiad eisoes o ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, ac rydych yn rhywun sydd ag angerdd go iawn am sgyrsiau gwych a helpu pobl eraill. Rydych chi'n wrandäwr gwych, yn trin pob cwsmer yn barchus wrth i chi gymryd yr amser i ddeall eu hanghenion yn llawn.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
- Dawn am ddatrys problemau a dod o hyd i'r datrysiadau gorau i gwsmeriaid
- Hyder wrth ddefnyddio cyfrifiadur, â llygad am fanylion a chywirdeb
- Gwydnwch a phositifrwydd wrth wynebu sefyllfaoedd heriol
- Hyblygrwydd i addasu i newid, a bod yn agored i adborth
Additional information
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel aelod gwerthfawr o'n tîm, bydd gennych fynediad at amrywiaeth o raglenni datblygu â chymorth llawn, sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa â ni. P'un a ydych chi'n edrych i dyfu yn eich rôl bresennol, neu ddysgu sgiliau newydd a chymryd mwy o gyfrifoldebau, gallwn eich helpu i adeiladu'r yrfa rydych chi'n chwilio amdano yma.
Rydym bob amser yn ceisio cydnabod a gwobrwyo ein gweithwyr am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Dyma ychydig o'r buddion y bydd gennych fynediad atyn nhw, fel rhan o'n tîm:
- 25 diwrnod o wyliau ynghyd ag 8 Gŵyl y Banc.
- Cynllun pensiynau Worksave â hyd at 7% o gyfraniad y cyflogwr.
- Aelodaeth damwain AA hanner pris yn eich blwyddyn gyntaf ac am ddim ar ôl 12 mis. Ynghyd â gostyngiad rhagarweiniol 50% oddi ar yswiriant damwain am 12 mis ar gyfer hyd at 5 ffrind/aelod o’r teulu.
- Manteisiwch ar nifer o gynhyrchion a gwasanaethau gan gynnwys gofal iechyd, aberthu cyflog ar gyfer car, Cynllun Beicio i'r Gwaith yn ogystal â gostyngiadau mewn cannoedd o fanwerthwyr ar y stryd fawr, dyddiau allan, gwyliau a llawer mwy.
- Cyfleion amrywiol i gael hyfforddiant ac i datblygu eich hun er mwn chefnogi chi yn eich gyrfa.
- Hefyd mae na Gynllun ganddo ni wedi ei sefydlu I rhoi gymorth I ein gyflogeion a hefyd gwasaneath 24/7 Meddyg Teulu ar gael i chi ach teul
Hefyd, cymaint mwy!
Yn ogystal, rydym yn fusnes sydd â ffordd gynyddol ystwyth o weithio a chefnogwn ddull gweithio hyblyg o ymdrin â'r rôl hon. Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ei archwilio, rhowch wybod i ni.
Mae ymddygiad da yn bwysig i ni. Mae ein timau'n cael eu hysgogi trwy wneud y peth cywir i gwsmeriaid a chydweithwyr, ac yn unol â'n gwerthoedd, gofynnwn i'n holl weithwyr weithredu â gonestrwydd bob amser a pharch tuag at bobl eraill. Rydyn ni'n gobeithio clywed gennych chi yn fuan.
#LI-CL